DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER GWAITH CARTHU AC ECHDYNNU O DRAETH BEDWYN A NORTH MIDDLE GROUND
Hysbysir drwy hyn fod Breedon Trading Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae’n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae’r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae’r cais ar gyfer cynnal gwaith carthu ac echdynnu o Draeth Bedwyn a North Middle Ground. Mae copïau o’r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Breedon Severn Sands, Alexandra Dock, Newport NP20 2WZ 01633 266689 am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Gallwch hefyd gael copïau o’r datganiad amgylcheddol a’r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/ neu drwy e-bostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio’r cyfeirnod cais MMML2367.
Os gofynnir am gopïau caled o’r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a’r datganiad amgylcheddol wneud hynny’n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru trwy ysgrifennu at y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP, neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 42 o ddyddiadau o’r hysbysiad hwn. Dylai’r sylwadau fod wedi’u dyddio a nodi’n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy’n cyflwyno’r sylwadau.
Dyfynnwch gyfeirnod MMML2367yn eich holl ohebiaeth.
Eir i’r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau’r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i’w gweld yn gyhoeddus.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.